Mwg 'In the Wild' yr RSPB - Ysgyfarnog
Mae'r mwg 'latte' porslen hwn o gasgliad 'In the Wild' yr RSPB yn ychwanegiad chwaethus i unrhyw gartref neu swyddfa. Mae'r llun hyfryd o ysgyfarnog yn siŵr o ychwanegu tipyn o liw i'ch cegin. Mae'n fwg perffaith i fwynhau coffi, te, 'latte' a siocled poeth. Gallwch ei olchi'n hawdd yn y peiriant golchi llestri a'i roi'n ddiogel mewn ffwrn microdon.
(U) 13cm x (Ll) 8cm