Mae Geifr y Gogarth yn Llandudno wedi bod yn boblogaidd erioed ymysg pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond fe ddaethant yn adnabyddus ledled y byd yn ystod y cyfnod clo cyntaf pan welsant eu cyfle a dod i feddiannu'r dref!
Mae cynefin y geifr Kashmir ym mynyddoedd India, ac fe'u mewnforiwyd i Ewrop yn yr 1800au eu mwyn eu gwlân cashmir. Rhoddodd Shah Persia bâr o eifr i'r Frenhines Fictoria ym 1837. Tyfodd buches Frenhinol Windsor oddi yno. Mae'r geifr wedi bod yn preswylio ar y Gogarth ers dros 100 mlynedd ar ôl i'r Arglwydd Mostyn gael pâr o'r Fuches Frenhinol. Fel arfer maen nhw'n pori ar y pentir ond yn mentro i lawr i'r dref yn ystod tywydd oerach.
Edrychwch ar ein casgliad o nwyddau sydd wedi'u hysbrydoli gan eifr yn anrheg neu gofrodd perffaith i'ch atgoffa am anifeiliaid enwog Llandudno.