Llwyau caru

Yn draddodiadol, rhoddwyd llwyau caru yng Nghymru fel arwydd o serch. Erbyn hyn maen nhw hefyd yn cael eu rhoi fel anrhegion priodas neu gofrodd o Gymru, gyda'r symbolau ag ystyron iddynt, er enghraifft calon yn golygu cariad, clychau yn symbol o briodas a phedol am lwc.