Alice in Wonderland

Oeddech chi'n gwybod bod gan Lewis Carroll gysylltiadau â Llandudno?

Roedd gan y Teulu Liddell o Rydychen ferch Alice ac roeddent yn ymweld â'r dref yn rheolaidd. Dywedir i Lewis Carroll dreulio amser gyda'r teulu yn eu cartref gwyliau 'Pen Morfa' ar Draeth y Gorllewin a'i ysbrydoli yno i ysgrifennu'r straeon sydd bellach yn enwog i Alice a'i chwaer.