Cardiau Nodiadau Pâl a Glas y Dorlan 'In the Wild' yr RSPB
Dau aderyn nodedig sydd i'w gweld ar y cardiau nodiadau hyfryd hyn: y pâl a glas y dorlan. Mae'r cerdyn pâl yn cynnwys y geiriau 'A note to say...' ar y blaen, a'r cerdyn glas y dorlan yn cynnwys y geiriau 'Thank you' ar y blaen. Mae'r ddau gerdyn yn wag y tu mewn i chi ychwanegu eich neges eich hun.
- Cardiau sgwâr yn mesur 10.8 x 10.8cm.
- Dau ddyluniad, pum cerdyn o bob dyluniad.
- Gydag amlenni naturiol.
- Dim pecynnau plastig.