Llyfr "The North Wales Limestone Way"

  • £7.95
Mae Llwybr Calchfaen Gogledd Cymru yn llwybr saith cam 136km (85 milltir) sydd newydd ei greu ar hyd brigiad Calchfaen Carbonifferaidd sy'n 340-330 miliwn oed. Mae'n ymestyn o’r Gogarth Fawr eiconig yn Llandudno ar hyd arfordir gogledd Cymru ac o amgylch Dyffryn Clwyd, gan groesi Bryniau Clwyd ar hyd bwlch isel i fyny i ucheldiroedd calchfaen gogledd-ddwyrain Cymru, cyn gorffen ar yr arfordir ym Mhrestatyn.

Mae'r llwybr yn cychwyn ac yn gorffen mewn cyrchfannau glan môr Fictoraidd poblogaidd, ond yn y canol mae'n symud i fannau llawer tawelach ar y mewndir. Mae’n llwybr llawn hanes a chyn-hanes sy'n mynd â cherddwyr heibio i anheddau ogofâu Oes y Cerrig, mwyngloddiau copr o’r Oes Efydd, bryngaerau o’r Oes Haearn, adfeilion Rhufeinig, cestyll a threfi caerog Normanaidd, tai hanesyddol a gweddillion diwydiannol y gorffennol hyd at y Gymru fodern gyda ffermydd gwynt ar y môr a llwyfannau olew/nwy. Mae golygfeydd syfrdanol i'w gweld o'r arfordir a'r mewndir ac fe geir gwarchodfeydd natur a'u fflora arbenigol eang. Mae'r calchfaen yn dda ar gyfer cerdded gan ei fod fel arfer yn sych dan draed, gyda phentrefi calchfaen ar wasgar; waliau sychion yn aml yn diffinio'r caeau, a choetiroedd wedi'u gorchuddio â blodau'r gwanwyn.

Adolygiadau Cwsmeriaid

Byddwch y cyntaf i ysgrifennu adolygiad
0%
(0)
0%
(0)
0%
(0)
0%
(0)
0%
(0)