Llyfr gweithgareddau lliwgar 32 tudalen, fformat mawr, ar thema Geltaidd i'r teulu cyfan. Yn llawn lluniau bywiog ar ddwy dudalen, y dasg yw dod o hyd i'r ddraig fach ac eitemau eraill sy'n cuddio mewn golygfeydd doniol o fythau a chwedlau Cymreig traddodiadol. Byddwch yn siŵr o gael oriau o hwyl!