Llyfr Nodiadau Clawr Meddal A5 'Tu Hwnt i'r Gwrych' yr RSPB
Dyma gyflwyno cyfres o ddeunyddiau ysgrifennu â darluniau hyfryd sy'n cyfleu rhyfeddodau bywyd a blodau gwyllt gan yr artist, Anne Mortimer. Mae'r gyfres hon wedi'i thrwyddedu gan yr RSPB, ac mae'n helpu cefnogi’r gwaith gwych y mae’r RSPB yn ei wneud i amddiffyn bywyd gwyllt gwerthfawr y DU.
Mae'r llyfr nodiadau A5 hwn â chlawr meddal lliwgar o gyfres deunyddiau ysgrifennu 'Tu Hwnt i'r Gwrych' yr RSPB yn berffaith i chi ysgrifennu eich nodiadau pwysicaf. Mae ei faint A5 yn golygu ei fod yn ddigon bach i ffitio yn eich bag neu'ch poced, ond mae yna ddigon o le ynddo i'ch holl nodiadau. Enw'r dyluniad ar y llyfr nodiadau hwn yw 'Adar yn yr Ardd', ac fe fyddai'n gwneud anrheg ddelfrydol i unrhyw un sy'n gwirioni ar fywyd gwyllt a chadwraeth.
(U) 21cm x (Ll) 14.8cm