Cerdded Llwybr Arfordir Cymru
Llwybr Arfordir Cymru, yn 870 milltir o hyd yw'r llwybr hiraf ym Mhrydain, gan olrhain yr arfordir o Gaer i Gas-gwent. Mae'r arweinlyfr hwn yn rhannu'r llwybr arfordirol cyfan yn 9 ardal ddaearyddol a 57 rhan, yn amrywio rhwng 10 i 20 milltir o hyd. Fodd bynnag, nid oes angen cadw'n gaeth at yr amserlen hon, gan fod lleoedd fel arfer lle gellir torri pob rhan yn llai, neu ei ymestyn ymhellach. Ynghyd â disgrifiadau llwybr manwl a mapiau ar gyfer pob rhan, mae'r arweinlyfr yn darparu ystod o wybodaeth ymarferol, p'un a ydych chi'n bwriadu cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn llawn, mewn rhannau byrrach, neu fel cyfres o deithiau cerdded dydd. Mae gwybodaeth deithio, cyngor ar lety a chynllunio, ynghyd â manylion am hanes, bywyd gwyllt a daeareg yr arfordir yn sicrhau bod hwn yn gydymaith delfrydol i ddaarganfod arfordir Cymru ar droed.