Llandudno Through Time
Roedd Y Prif Weinidog Lloyd George yn ystyried Llandudno yn donic perffaith, gan ddweud wrth gydweithwyr fod mynd i Landudno yn ffordd wych o godi’r ysbryd. Arweiniodd ymweliad ym 1890 gan y nofelydd rhamantaidd a Brenhines flaenorol Rwmania, Carmen Sylva ddisgrifiad mor briodol fel iddo gael ei fabwysiadu fel arwyddair swyddogol y dref, ‘Hardd Hafan Hedd’. I bawb, mae Llandudno yn dod ag atgof o bleserau distaw traddodiadol glan y môr ond a yw’r dref wedi dianc yn llwyr rhag y gwyntoedd dinistriol sydd wedi dod a newid yn ei sgil? Hysbyswyd darpar dwristiaid yn 'Official Guide to Llandudno’ 1933, fod Llandudno yn ganolfan wyliau heb ei hail. Mae holl olygfeydd bendigedig Gogledd Cymru o fewn cyrraedd hawdd ar drên, bws, modur neu gwch stêm ac roedd Garej Broadway, Craig-y-don wrth law i gyflenwi moduron neu yrwyr fel bo angen. Mae amser yn newid ac nid yw Garej Broadway bellach yn cyflenwi ceir Rover, siarabangs na chuffers ond yn hytrach yn gwerthu ceir Almaenig a Japaneaidd a phetrol hunan- wasanaeth. Mae’r casgliad hwn o ffotograffau ddoe a heddiw a gafodd eu casglu a’u hymchwilio’n fanwl gan Gadeirydd ac Is-gadeirydd Cymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn yn cynnig golwg unigryw ar ffawd newidiol ‘Brenhines Trefi Glan Môr Cymru’.