Kittiwake Pilgrims Way
Mae'n ddrwg gennym, nid yw mewn stoc ar hyn o bryd.
134 milltir – Mae Taith y Pererin yn lwybr hir o tua 134 milltir o aber yr afon Dyfrdwy hyd at Ynys Enlli, gan droedio ffordd hynafol ar draws tirlun trawiadol Gogledd Cymru. Mae’r daith yn croesi mynyddoedd y wald, ac mewn un man mae’n cyrraedd troed yr Wyddfa ei hun. Ond nid yw’r daith gerdded yn cynnwys mynydda o ddifri, er fod peth o’r tirwedd yn arw a rhai rhannau’n serth. Ond ar y cyfan, mae Taith y Pererin yn fwy o brawf ar eich dyfalbarhad, ac mae sawl rhan o’r daith yn mynd ar hyd glannau afonydd, drwy goetir, ar draws caeau ac ar hyd llwybr yr arfordir.