Sêl

Gwylan Goesddu Gogledd Eryri

  • £5.95
30 o Deithiau Cerdded – Mae rhan Ogleddol Parc Cenedlaethol Eryri, y Parc mwyaf yng Nghymru, yn dirlun trawiadol ac amrywiol iawn sy’n cynnwys mynyddoedd, bryniau, afonydd, llynnoedd a dyffrynnoedd coediog a ffurfiwyd yn ystod Oes yr Iâ. Yn Eryri, mae mynydd uchaf Cymru a Lloegr, sef Yr Wyddfa. Mae’n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn ond hefyd yn cynnal tirlun byw sydd wedi ei siapio gan ffermio mynydd traddodiadol, cloddio llechi, yn ogystal â mwyngloddio plwm a chopr. Mae Northern Eye Books Snowdonia yn trafod ardal sy’n llawn hanes, iaith a diwylliant y Gymraeg, ac mae yma amrywiaeth fawr o gyfleoedd cerdded. Dyma ddetholiad o 30 o deithiau cerdded, rhai mewn mannau llai adnabyddus, sy’n adlewyrchu amrywiaeth cyfoethog o dirlun, gwerth golygfaol a diddordeb hanesyddol Northern Eye Books Snowdonia. Mae teithiau cerdded sy’n archwilio godre’r Carneddau ar hyd yr arfordir, o Gonwy i Fethesda, gan gynnwys rhaeadr trawiadol Abergwyngregyn a dringo Tal y Fan, mynydd mwyaf gogleddol Eryri. Mae llwybrau wedi eu harwyddo drwy Barc Coed Gwydyr heibio llynnoedd yr ucheldir ac olion hen fwynfeydd plwm. Maen nhw’n ymweld â henebau gan gynnwys bryngaerau o Oes Yr Haearn, meini hirion a cherrig hynafol, ac eglwys ganoloesol anghysbell yn yr ucheldir. Maen nhw'n dilyn yn ôl troed y Rhufeiniaid, porthmyn a mwynwyr ac yn mynd yn agos at Drên Bach yr Wyddfa a Rheilffordd Ucheldir Cledrau Cul Cymru. Mae teithiau ar hyd afonydd, drwy goetir, heibio dyffrynnoedd a llynnoedd yr ucheldir. Maen nhw’n ymweld a chymunedau hanesyddol, gan gynnwys Betws-y-Coed, Beddgelert a Llanberis, yn ogystal a hen bentref chwarelyddol Cwm Penmachno. Maen nhw’n amrywio o lwybr 1½ milltir drwy goetir ac ucheldir Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i lwybr heriol 8 milltir ar hyd cefnen, un o’r rhai gorau yn Eryri.