Kittiwake Conwy Valley Way
Taith gerdded 102 milltir – Yr Afon Conwy yw un o afonydd mwyaf prydferth Cymru, ac mae’n llifo drwy dirwedd prydferth ac amrywiol ar ymyl dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r afon yn codi o Lyn Conwy yn uchel ymhlith rhostir gwyllt ac unig y Migneint, ac yna’n llifo drwy dir pori amgaeedig yn yr ucheldir a phentref bychan Ysbyty Ifan, rhan o stad fawr ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Wrth iddi gwympo drwy geunentydd rhwng bryniau coediog, mae is-afonydd y Machno a’r Lledr yn ymuno â hi, ac yna’r Llugwy ym Metws-y-coed, y gyrchfan fewndirol boblogaidd a’r porth i Eryri. Oddi yma, mae’r afon yn llifo’n hamddenol i’r gogledd ar hyd dyffryn rhewlifol, ffrwythlon sy’n ehangu, gan fynd heibio i dref farchnad hanesyddol Llanrwst, cyn borthladd mewndirol a sba Trefriw, a phentref diwydiannol Dolgarrog. Mae’n parhau i’r gogledd i fynd heibio i dref gaerog ganoloesol wych Conwy, Safle Treftadaeth y Byd, a Deganwy i geg y foryd. Yma mae’n ymuno â’r môr ym Mae Conwy, gyda’i dwyni tywod a’i draethau, a ddiogelir ar ei ochr orllewinol gan bentir calchfaen trawiadol y Gogarth. Llwybr bendigedig.