Sêl

Kittiwake Anglesey

  • £5.95
42 taith gerdded – Mae Ynys Môn yn adnabyddus am ei golygfeydd arfordirol prydferth a’i hanes morol. Mae rhan fwyaf yr arfordir o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ddynodedig sy’n gorchuddio bron i draean Ynys Môn – y mwyaf yng Nghymru – ac yn cynnwys Mynydd y Tŵr, copa uchaf Ynys Môn. Yn ogystal, mae gan Ogledd Môn, Mynydd y Tŵr a Bae Aberffraw statws Arfordir Treftadaeth. Mae’r 42 taith gylchol yn y RHIFYN DIWYGIEDIG NEWYDD hwn yn archwilio tirlun prydferth ac amrywiol yr AHNE a’i hanes hynod. Mae’r teithiau sy’n amrywio o ran hyd o Lwybr Chwarel Gopr 2.5 milltir i grwydr 10.5 milltir o hyd o Ynys Gybi yn rhwydd o fewn gallu’r rhan fwyaf o bobl. Mae nifer o lwybrau yn cynnwys dewisiadau cerdded byrrach. Nodwedd allweddol yw bod modd cysylltu teithiau cerdded unigol gydag eraill i gynnig teithiau diwrnod llawn hirach a mwy heriol os oes angen. Maent yn dilyn hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau goddefol ac ar draws Tir Mynediad Agored.