Lliain Llestri Geifr Llandudno
Lliain llestri del 'Geifr Llandudno' gyda gwaith celf gan y dylunydd arobryn lleol Lisa Williams. Mae'r dyluniad yn cynnwys yr arwydd enwog 'Croeso i Landudno'. Argraffwyd ar gotwm organig yng Ngogledd Cymru,
Mae Geifr y Gogarth yn Llandudno wedi bod yn boblogaidd erioed ymysg pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd, ond fe ddaethant yn adnabyddus ledled y byd yn ystod y cyfnod clo cyntaf pan welsant eu cyfle a dod i feddiannu'r dref!
Mae mat paned a mwg tebyg ar gael.
Mesuriadau: 79cm x 50cm