Bee Welsh Honey - Mêl Blodau (Clir) 340g gyda Gwenynen a Throchwr
Mêl Blodau Cymreig amrwd sydd wedi ennill gwobrau, gyda gwenynen wlân fach ddel a throchwr.
Dechreuodd Shane Llewelyn-Jones gadw gwenyn yn 12 mlwydd oed gydag un cwch gwenyn yn yr ardd, er mawr siom i’w rieni! Bellach, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’n rhedeg y Bee Welsh Honey Company, sydd wedi’i leoli yn Llanfair ym Muallt yng nghalon werdd Canolbarth Cymru. Mae ganddo tua 150 o gychod gwenyn a gwenynfeydd (lle cedwir cychod gwenyn) ar hyn o bryd, wedi'u lleoli ymysg y bryniau eang ac ar hyd glan yr afon Gwy. Mae’r gwenyn yn porthi ar doreth o flodau gwyllt, o flodau cynnar y gwanwyn a meillion tir isel yr haf i weunydd grug ucheldirol Canolbarth Cymru ar ddiwedd y tymor.
Buddsoddir llawer o ofal a chariad yn y gwaith o gynhyrchu'r aur hylifol hwn o fyd natur i chi ei fwynhau yn y ffordd hen ffasiwnDoes dim yn cael ei ychwanegu na'i dynnu, a chaiff ei roi yn y potiau â llaw.
340g