Cynlluniwr Wythnosol 'Tu Hwnt i'r Gwrych' yr RSPB
Dyma gyflwyno cyfres o ddeunyddiau ysgrifennu â darluniau hyfryd sy'n cyfleu rhyfeddodau bywyd a blodau gwyllt gan yr artist, Anne Mortimer. Mae'r gyfres hon wedi'i thrwyddedu gan yr RSPB, ac mae'n helpu cefnogi’r gwaith gwych y mae’r RSPB yn ei wneud i amddiffyn bywyd gwyllt gwerthfawr y DU.
Mae'r cynlluniwr hwn o gyfres 'Tu Hwnt i'r Gwrych' yr RSPB yn berffaith i gadw trefn ar eich bywyd. Enw'r dyluniad sydd ar y llyfr clawr caled hwn yw 'Draenog ymysg y Dail', ac mae ganddo dudalen i bob wythnos i chi gael nodi eich tasgau a'ch cynlluniau. Mae gorffeniad gwydn y gorchudd yn amddiffyn y llyfr rhag ôl traul, sy'n golygu ei fod yn berffaith i'w ddefnyddio bob dydd.
(U) 21.2cm x (Ll) 12.2cm