Sêl

Kittiwake Llandudno - Prestatyn

  • £5.95
30 o Deithiau Cerdded – caiff Llandudno ei hadnabod fel ‘Brenhines Trefi Glan Môr Cymru’, ac fe’i hadeiladwyd yn bennaf rhwng 1849 a 1912 fel tref wyliau glan y môr, o dan arweiniad teulu cyfoethog Mostyn. Gyda dyfodiad cangen y rheilffordd ym 1858, sicrhawyd fod Llandudno’n tyfu’n brif gyrchfan wyliau, fel y mae heddiw. Caiff y Gogarth ei reoli fel parc gwledig a gwarchodfa natur. Mae hen dollffordd o Oes Fictoria yn mynd o amgylch y clogwyni, ac unig dramffordd cebl Prydain yn tynnu tua’r copa, dwy ryfeddod peirianyddol. Mae sawl safle o diddordeb hanesyddol ac achaeolegol. O Landudno mae arfordir hardd Gogledd Cymru yn ymestyn ar hyd trefi glan y mor eraill hyd at Brestatyn. Maen nhw’n cynnig golygfeydd gwych o’r arfordir, a’r ffordd orau o’r darganfod yw ar droed. Mae’r teithiau yn y llyfr hwn yn archwilio tirlun a hanes y rhan hon o arfordir Gogledd Cymru yn fanwl.