Jig-so 1000 o ddarnau 'Wildlife Haven' yr RSPB
Jig-so 1000 o ddarnau lliwgar gyda digonedd i ennyn diddordeb y rheiny sydd wrth eu boddau'n gwneud jig-sos. Mae'r dyluniad hyfryd gan yr artist Claire Comerford yn cynnwys golygfa brysur o fywyd gwyllt mewn gwrych; yn llawn adar, pryfetach a mamaliaid. Yn gefnlen hyfryd i'r cyfan mae eglwys i'w gweld yn y pellter y tu hwnt i'r ddôl.
- Bocs eco-gyfeillgar sy'n arbed lle.
- Cyfarwyddiadau yn gynwysedig.
- Amlen bapur i ddal y darnau a dim bagiau plastig.
- Mae'r jig-so gorffenedig y mesur 68 x 48cm.