Sêl

Dyluniadau Pam Peters - Dysgl Dlysau Penlas yr Ŷd

  • £15.99

Mae'r dysglau tlysau blodau gwydr hardd hyn yn ddarnau hyfryd o gelf gwreiddiol i'w rhoi'n anrheg i rhywun neu i'w prynu i chi'ch hun! Gwneir pob dysgl dlysau â llaw yn Abergele, Gogledd Cymru. Byddai'r ddysgl hon yn edrych yn hyfryd ar unrhyw silff, bwrdd gwisgo neu seidbord. Mantais bod wedi'i gwneud o wydr lliw yw na fydd y ddysgl byth yn colli ei lliw nac yn pylu, felly gellir ei mwynhau am byth.

Mae'r ddysgl wydr lachar hon yn dechrau ei bywyd fel darn crwn o wydr crefftwr wedi'i dorri â llaw, sydd yna'n cael ei dorri'n betalau cyn ei danio mewn odyn ar dymheredd o tua 800℃ er mwyn asio'r holl elfennau ynghyd. Yr ail gam yw ei danio eto i ffurfio'r gwydr yn siâp dysgl. Mae hyn yn creu'r darn hardd hwn o gelf gwreiddiol.

Diamedr tua 7cm x Uchder tua 1.5cm

Yn dod mewn Blwch Anrheg

Gan fod pob elfen wydr yn cael eu gwneud â llaw, nid oes unrhyw ddwy ddysgl yr un fath, felly efallai na fydd y ddysgl a gewch chi yn union yr un fath â'r un yn y llun.

 

 

Adolygiadau Cwsmeriaid

Dim adolygiadau eto
0%
(0)
0%
(0)
0%
(0)
0%
(0)
0%
(0)