
Eleni, mae Sul y Tadau ar ddydd Sul XNUMX Mehefin XNUMX. I'ch helpu i ddod o hyd i'r anrheg berffaith, rydym wedi creu rhestr o'r XNUMX anrheg orau ar gyfer Sul y Tadau o'n siop anrhegion Cymreig ar-lein. Fe welwch amrywiaeth o wydrau peint y Ddraig Goch, te Cymreig, bisgedi a llawer mwy o anrhegion unigryw!
- Gwydr peint y Ddraig Goch
Tywalltwch eich hoff gwrw neu lager Cymreig i'r gwydr peint Cymreig hwn sydd wedi'i addurno'n hyfryd. Mae'r gwydrau peint hyn, sydd â dyluniad holograffig o'r ddraig goch, yn cael eu cynhyrchu yn lleol yng Nghonwy ac maent yn anrheg Gymreig berffaith ar gyfer Sul y Tadau. Mae gwydrau jin a wisgi hefyd ar gael.
Pris: £ 7.99

Anrheg berffaith i unrhyw un sy'n caru Llandudno a Thramffordd y Gogarth! Dyluniwyd y jig-so hwn, sydd â 1000 o ddarnau, gan yr artist lleol Trevor Mitchell sydd wedi creu darlun hyfryd o dramffordd enwog y Gogarth yn Llandudno. Anrheg Gymreig a fydd yn eich cadw'n brysur am oriau! Ar ôl ei gwblhau, gallwch fframio'r jig-so hwn i gofio gwyliau a gawsoch yn y rhan hyfryd hon o ogledd Cymru.
Pris: £ 14.99
3. Mwg Rheilffordd Eryri
Anrheg ddelfrydol i unrhyw un sy'n ymddiddori mewn rheilffyrdd! Gallwch fwynhau eich hoff ddiod boeth yn y mwg arbennig hwn sy'n dangos map o linell rheilffordd Eryri a'r ardaloedd cyfagos! Mae'r map arddull metro o Ogledd Orllewin Cymru yn dangos enwau trefi a phentrefi enwog yr holl ffordd o amgylch y mwg ac mae'n berffaith os ydych yn chwilio am anrheg Gymreig unigryw wedi'i gwneud â llaw ar gyfer Sul y Tadau. Mae'r mwg yn un serameg sy'n dal 325ml o hylif ac mae'n ddiogel i'w roi yn y microdon.
Pris: £ 12.99
4. Bagiau te Paned Gymreig
Beth am sbwylio dad gyda phaned o de ar Sul y Tadau? Mae bagiau te Paned Gymreig yn cynnwys y cyfuniad gorau o de Indiaidd ac Affricanaidd. Wedi'u gwneud yng Nghymru a'u dewis oherwydd eu cryfder, lliw a blas, bydd y bagiau te hyn yn gwneud y baned berffaith i dad ar Sul y Tadau.
Pris: £ 4.99
5. Llyfr 'Walking in the Conwy Valley'
Mae hwn yn llyfr perffaith ar gyfer cerddwyr selog sy'n hoff o grwydro o amgylch gogledd Cymru. Ynddo mae ugain o deithiau cerdded cylch yn ardal hyfryd Dyffryn Conwy a'r cyffiniau yn nwyrain Eryri. Mwynhewch deithiau cerdded o amgylch ardal boblogaidd y Gogarth yn Llandudno, yn ogystal â theithiau cerdded llai adnabyddus yng Nghapel Garmon a Ffos Anoddun. Mae'r llyfr hefyd yn cynnwys nodiadau cynhwysfawr am y llwybrau, pwyntiau o ddiddordeb a mapiau manwl.
Pris: £ 7.99
6. Bisgedi Tan y Castell
Mae'r bisgedi menyn hyn sydd wedi ennill gwobrau yn felys, brau a hufennog! Wedi'u gwneud â llaw yng Nghymru, mae'n well mwynhau'r bisgedi hyn gyda phaned Gymreig, neu i'r rheiny â dant melys, beth am flasu Bisgedi Darnau Siocled Tan y Castell yn lle? Mae ansawdd arbennig y bisgedi yr un peth ond gyda darnau siocled Belgaidd blasus wedi'u hychwanegu.
Pris: £ 1.99
7. Cerdyn cyfarch Geifr y Gogarth
Daeth Geifr y Gogarth yn enwog yn Llandudno yn ystod y cyfnod clo pan benderfynon nhw feddiannu'r dref. Mae'r artist lleol, Lynn Morris, bellach wedi creu cyfres o gardiau cyfarch Geifr y Gogarth sydd ar gael mewn chwe dyluniad doniol. Ynddynt fe welwch y geifr hoffus mewn atyniadau poblogaidd fel ceir cebl Llandudno a Phier Llandudno. Chwiliwch am y dyluniad perffaith ar gyfer eich cerdyn Sul y Tadau eleni!
Pris: £ 3.50
8. Fframiau cerrig crynion
Mae ein fframiau cerrig crynion poblogaidd wedi dychwelyd i stoc yn ddiweddar ac maent ar gael mewn pum dyluniad gwahanol. Dewiswch o Eryri, Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos, Conwy neu'r Fenai. Mae pob ffrâm wedi'i phaentio'n hyfryd â llaw gan yr artist lleol Joanne Warr. Anrheg berffaith i unrhyw un sy'n caru celf a Gogledd Cymru. Dimensiynau'r ffrâm yw 22.5cm x 17.5cm x 3cm.
Pris: £ 25.99
9. Bara Brith Tan y Castell
Beth am sbwylio dad i Fara Brith Tan y Castell fel anrheg Gymreig berffaith ar gyfer Sul y Tadau eleni? Mae'r dorth ffrwythau draddodiadol hon, a wneir â llaw yn Sir Benfro, Cymru, wedi ennill sawl gwobr. Defnyddir cynhwysion o safon gan gynnwys ffrwythau gwinwydd wedi'u mwydo mewn te, marmaledau a sbeisys. Yn isel mewn braster ac yn llawn blas, dyma'r ffordd berffaith i roi gwir flas Cymru i'ch tad ar Sul y Tadau.
Pris: £ 3.99
10. Hamper moethus i gerddwyr
Anrheg ddelfrydol i unrhyw gerddwr! Mae'r hamper hwn yn cynnwys popeth sydd ei angen arnoch i fwynhau teithiau cerdded anhygoel yn Sir Conwy. Ynddo mae tri o lyfrau a chanllawiau cerdded gwahanol, blanced 'Walker's Companion' gan Tweedmill, bisgedi Tan y Castell, bisgedi darnau siocled Tan y Castell a bagiau te Paned Gymreig. Gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o deithiau cerdded a restrir yn y 3 llyfr sydd yn yr hamper. Llenwch fflasg o de Cymreig, mwynhewch fisgedi blasus o Gymru, cyn gorwedd ac ymlacio ar y flanced Tweedmill. Y ffordd berffaith i dreulio Sul y Tadau!
Pris: £ 57.99
I gael mwy o syniadau, edrychwch ar ein casgliad o anrhegion Cymreig ar gyfer Sul y Tadau yma.